Beth sy'n digwydd nawr?

Diweddarwyd y dudalen: 28/05/2023

Cynhaliwyd ein hadolygiad llawn diwethaf yn 2018 pan ddyfarnwyd y wobr arian i ni, sy'n golygu ein bod yn y 40% uchaf o'r holl sefydliadau sy'n dal y wobr ledled y byd.  Ers hynny, bu newid sylweddol ar draws y sefydliad, ac rydym mewn sefyllfa gref i adeiladu ar y cyflawniad hwnnw.  

Rydym yn gweithio i gadw ein safon Buddsoddwyr mewn Pobl ac mae angen eich help arnom.  

Ar 26 Medi, byddwch yn derbyn gwahoddiad gan Fuddsoddwyr mewn Pobl i gwblhau holiadur annibynnol dienw.  A fyddech cystal â threulio 5 munud yn cwblhau'r arolwg hwn.  Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd i gael dealltwriaeth ddyfnach o unrhyw faterion a godwyd yn ein harolwg staff a aeth allan ym mis Mehefin er mwyn i ni wneud yn siŵr ein bod yn cymryd y camau cywir. 

Yn dilyn yr arolwg hwn, ym mis Hydref, bydd trafodaethau grwpiau ffocws a chyfweliadau un-i-un yn cael eu cynnal gyda staff o bob rhan o'r cyngor. Bydd y bobl sy'n cael eu cyfweld yn cael eu dewis i fod yn gynrychiolwyr y gweithlu cyfan. 

Os hoffech chi wybod rhagor am y cyfweliadau a/neu os hoffech gymryd rhan, rhowch wybod i ni drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu.  

Gallwch hefyd ddarganfod beth sy'n digwydd yn ystod y cyfweliad drwy edrych ar yr adran Canllawiau ar ein tudalen Buddsoddwyr mewn Pobl