12/04/2024
Mae ein sioeau teithiol i staff yn ôl y gwanwyn hwn. Dewch draw am sgwrs gyda chydweithwyr mewn amgylchedd hamddenol. Bydd pob sioe deithiol ar agor o 11.30am i 2pm.
04/04/2024
O 6 Ebrill, y bydd angen i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus ddidoli eu gwastraff i'w ailgylchu. Cyfrifoldeb pawb yw rhoi'r gwastraff cywir yn y bin cywir.
03/04/2024
Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd Gwasanaethau TGCh yn troi Dilysu Aml-ffactor (MFA) ymlaen i'r holl ddefnyddwyr. Cofrestrwch heddiw i ddiogelu eich cyfrif.
27/02/2024
Bydd Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn cael eu cynnal ddydd Iau, 2 Mai 2024. Cymerwch y cyfle i ymgyfarwyddo â'r canllawiau yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad.
Gallwch fwynhau cannoedd o gynigion a gostyngiadau yn cynnwys 15% oddi ar bris mynediad yng Nghanolfan Gwlyptir Llanelli. Cofrestrwch (os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny) neu mewngofnodwch gyda'ch rhif gweithiwr (sydd ar eich slip cyflog) a Rhif Adnabod y cynllun 6991 i ddarganfod mwy.
Rydym yn gweithio gyda Salary Finance, darparwr llesiant ariannol sy'n cynnig mynediad at fenthyciadau fforddiadwy a ad-delir drwy eich cyflog, blaendaliadau ar dâl a enillir, arbedion syml ac addysg ariannol am ddim.
Cefnogi eich dyfodol ariannol drwy Rannu Cost Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol. Gall aelodau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gael mynediad i'n maintais (AVC) i weithwyr.
Gallwch gael beic ac offer beicio newydd drwy'r cynllun Beicio i'r Gwaith a ddarperir gan ein partneriaid, Cycle Solutions. Mae'r Cynllun Beicio i'r Gwaith yn fenter a gefnogir gan y Llywodraeth sy'n eich galluogi i gael beic a/neu ategolion beicio i'w defnyddio ar gyfer beicio i'r gwaith ac arbed treth ac Yswiriant Gwladol o'ch cyflog gros. Gallwch ddewis eich cyfuniad perffaith o ran beic ac ategolion ac yna rhentu'r offer trwy ildio cyflog gyda'r cyngor.