Sut y gallwch chi helpu
Diweddarwyd y dudalen: 24/11/2023
Dyma rai awgrymiadau o bethau bach y gallwch eu gwneud i helpu. Os oes gennych unrhyw syniadau pellach yr hoffech eu rhannu â chydweithwyr, rhowch wybod i ni ar ein tudalen 'Rhannwch eich syniadau'
- Gallwch weld eich ôl troed carbon drwy ddefnyddio cyfrifiannell Ôl Troed Carbon WWF
- Ailgylchu – sicrhewch fod eich gwastraff plastig, caniau ac ati yn cael eu golchi a'u rhoi yn y biniau ailgylchu cywir. I gael gwybod beth allwch chi ei ailgylchu defnyddiwch ein rhestr ailgylchu A i Y
- Cynhyrchu bwyd a gwastraff bwyd yw un o'r allyrwyr carbon uchaf. Byddwch yn greadigol gyda'ch bwyd dros ben, gallwch ddod o hyd i ryseitiau gwych ar wefan LoveFoodHateWaste
- Ceisiwch brynu bwyd a chynnyrch sydd mor lleol â phosibl. Ceir rhagor o wybodaeth am rai o'n busnesau lleol gwych ar ein tudalen 100% Sir Gâr
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn diffodd offer cyfrifiadurol fel sgriniau a gorsafoedd docio a pheidio â'u gadael yn y modd segur.
- Rhowch gynnig ar feicio neu gerdded yn hytrach na defnyddio'r car ar gyfer taith. Mae hyn nid yn unig yn llesol o ran allyriadau carbon ac ansawdd aer ond hefyd o ran eich iechyd a'ch llesiant.
- Defnyddiwch lai o ddŵr: Defnyddir ynni ac adnoddau i brosesu a darparu dŵr i'n cartrefi. Mae hefyd yn defnyddio tipyn o ynni i’w gynhesu. Felly, drwy ddefnyddio llai, gallwch helpu'r amgylchedd a lleihau eich ôl troed carbon. Ceisiwch ddiffodd y tapiau wrth frwsio'ch dannedd, cael cawodydd byr yn hytrach na baddonau, a dim ond berwi'r dŵr sydd ei angen arnoch ar gyfer paned. Drwy ddefnyddio’r holl ddŵr sydd ei angen
arnoch, ond bod yn ofalus i beidio â’i wastraffu, gallwch helpu i wneud gwahaniaeth mawr. Ewch i dwrcymru.com/ArbedDwr am ragor o ffyrdd o arbed dŵr. - Defnyddiwch gwpan y gellir ei ailddefnyddio pan fyddwch chi'n prynu coffi i fynd gyda chi er mwyn lleihau faint o gwpanau untro sy'n mynd i safleoedd tirlenwi. Hefyd, defnyddiwch fagiau y gellir eu hailddefnyddio pan fyddwch yn siopa i leihau'r angen am fagiau plastig.
Mwy ynghylch Prosiect Zero Sir Gar