Strategaeth Gweithlu- 2024 – 2029 - Fframwaith Sefydlog ar gyfer Gweithlu sy'n Newid - Ebrill 2026
Yn yr adran hon
- 1. Pwrpas y Strategaeth Gweithlu
- 2. Cyd-destun Strategol
- 3. Ein Gweledigaeth ar Gyfer Gweithlu'r Dyfodol
- 4. Egwyddorion y Strategaeth Gweithlu
4. Egwyddorion y Strategaeth Gweithlu
Mae’r Strategaeth yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol, sy’n llywio’r broses o wneud penderfyniadau ar draws y sefydliad cyfan:
Perchnogaeth gorfforaethol o risgiau’r gweithlu
Mae risgiau’r gweithlu yn risgiau corfforaethol. Rhaid deall, blaenoriaethu a mynd i’r afael ar y cyd â phrinderau, bylchau o ran gallu, gwendidau mewn trefniadau olyniaeth a materion yn ymwneud â chapasiti arweinyddiaeth, yn hytrach nag ar lefel gwasanaeth yn unig.
Nid yw perchnogaeth gorfforaethol yn dileu atebolrwydd gwasanaethau. Mae arweinwyr gwasanaethau yn parhau i fod yn gyfrifol am ddeall eu gofynion gweithlu presennol ac yn y dyfodol, cynnal cynlluniau gweithlu credadwy a gweithredu mewn ymateb i risgiau’r gweithlu a nodwyd. Cânt eu cefnogi a’u herio drwy drefniadau llywodraethu corfforaethol a swyddogaethau galluogi.
Blaenoriaethu ar sail tystiolaeth
Rhaid i flaenoriaethau’r gweithlu gael eu llywio gan wybodaeth gadarn am y gweithlu a thystiolaeth sefydliadol ehangach, gan gynnwys y galw am wasanaethau, gwybodaeth am berfformiad a risgiau sefydliadol.
Blaenoriaethu a chymesuredd o dan gyfyngiadau
Mewn amgylchedd gweithredu cyfyngedig, ni all y Cyngor ddatblygu holl uchelgeisiau’r gweithlu ar yr un pryd. Rhaid targedu ymdrech a buddsoddiad lle mae risgiau’r gweithlu a’r effaith ar y sefydliad ar eu mwyaf, gan dderbyn bod angen cyfaddawdu weithiau.
Cynaliadwyedd yn hytrach nag ymateb tymor byr
Mae’r Strategaeth yn blaenoriaethu cynaliadwyedd hirdymor y gweithlu, gan geisio lleihau’r ddibyniaeth ar atebion adweithiol, dros dro neu atebion sy’n cael eu sbarduno gan argyfwng, lle bynnag y bo modd.
Arweinyddiaeth a diwylliant fel ffyrdd o liniaru risg
Mae arweinyddiaeth effeithiol, capasiti rheoli, trefniadau olyniaeth a diwylliant sefydliadol yn hanfodol i wydnwch, llesiant, ymgysylltiad a chadw’r gweithlu.
Hyblygrwydd a’r gallu i addasu
Rhaid i’r Cyngor greu’r amodau sy’n galluogi hyblygrwydd a’r gallu i addasu ar draws y gweithlu. Dylai polisïau’r gweithlu, cynllun gwasanaethau, arferion arweinyddiaeth a threfniadau sefydliadol gynorthwyo gweithwyr i ymateb i ofynion sy’n newid, technoleg a ffyrdd o weithio yn y dyfodol, gan gynnal tegwch, diogelwch, cynhwysiant a llesiant.
