Strategaeth Gweithlu- 2024 – 2029 - Fframwaith Sefydlog ar gyfer Gweithlu sy'n Newid - Ebrill 2026
7. Llywodraethu a Sicrwydd
Cefnogir y gwaith o gyflawni’r Strategaeth hon drwy:
Ystyried risgiau’r gweithlu yn rheolaidd drwy Ffrwd Waith y Gweithlu Trawsnewid.
Diweddaru’r Cynllun Gweithlu Strategol yn flynyddol, gan ddarparu gwybodaeth gorfforaethol am y gweithlu, sicrwydd a blaenoriaethu.
Integreiddio â gwaith cynllunio corfforaethol, cynllunio ariannol, trefniadau llywodraethu trawsnewid a fframwaith llywodraethu’r Model Gweithredu Targed (TOM).
Defnyddio gwybodaeth am y gweithlu i lywio gwaith cynllunio gwasanaethau, trawsnewid, buddsoddi, arbedion, rheoli risg a phenderfyniadau sefydliadol ehangach.
Mae cynlluniau gweithlu adrannol yn parhau’n sylfaen i gynllunio’r gweithlu a rheoli risg ar lefel leol, ac mae’r Cynllun Gweithlu Strategol yn darparu darlun corfforaethol o gapasiti, gallu a risgiau’r gweithlu. Gyda’i gilydd, mae’r trefniadau hyn yn sicrhau bod ystyriaethau’n ymwneud â’r gweithlu yn llywio blaenoriaethau a phenderfyniadau sefydliadol, tra bo’r Strategaeth hon yn darparu’r fframwaith cyffredinol, y cyfeiriad a’r sicrwydd.
