Strategaeth Gweithlu- 2024 – 2029 - Fframwaith Sefydlog ar gyfer Gweithlu sy'n Newid - Ebrill 2026
Yn yr adran hon
- 5. Amcanion Strategol y Gweithlu (WSOs)
- 6. Perthynas â'r Cynllun Gweithlu Strategol
- 7. Llywodraethu a Sicrwydd
- 8. Adolygiad o'r Strategaeth
6. Perthynas â'r Cynllun Gweithlu Strategol
Mae’r Strategaeth Gweithlu hon yn darparu’r fframwaith strategol sefydlog ar gyfer penderfyniadau ynghylch cynllunio’r gweithlu.
Mae’r Cynllun Gweithlu Strategol, a gaiff ei ddiweddaru’n flynyddol, yn dwyn ynghyd dystiolaeth o gynlluniau gweithlu adrannol i roi darlun corfforaethol o gapasiti, gallu, cynaliadwyedd a risgiau’r gweithlu. Mae’n nodi’r pwysau ar y gweithlu, y gwendidau critigol a’r meysydd blaenoriaeth y mae angen sylw sefydliadol arnynt, ac yn llywio gwaith cynllunio, blaenoriaethu a gwneud penderfyniadau corfforaethol.
Yn ymarferol:
Mae’r Strategaeth yn diffinio cyfeiriad, egwyddorion ac amcanion hirdymor y gweithlu.
Mae’r Cynllun yn darparu’r dystiolaeth, yr asesiad o risgiau’r gweithlu, y blaenoriaethau a’r camau gweithredu sydd eu hangen i ymateb i heriau presennol y gweithlu a’r rhai sy’n dod i’r amlwg.
Mae’r gwahaniad hwn yn sicrhau parhad strategol, gan alluogi ymatebion cymesur sy’n seiliedig ar dystiolaeth i amodau’r gweithlu sy’n newid.
