Strategaeth Gweithlu- 2024 – 2029 - Fframwaith Sefydlog ar gyfer Gweithlu sy'n Newid - Ebrill 2026
Yn yr adran hon
- 5. Amcanion Strategol y Gweithlu (WSOs)
- 6. Perthynas â'r Cynllun Gweithlu Strategol
- 7. Llywodraethu a Sicrwydd
- 8. Adolygiad o'r Strategaeth
5. Amcanion Strategol y Gweithlu (WSOs)
Mae dull gweithlu'r Cyngor wedi'i strwythuro o amgylch pum Amcan Strategol parhaol y Gweithlu. Mae'r amcanion hyn yn parhau i fod yn gyson trwy gydol oes y Strategaeth, a gall eu pwyslais cymharol a'u trefn esblygu mewn ymateb i risg a thystiolaeth.
Amcan Strategol y Gweithlu 1: Denu, Recriwtio a Chadw Talent
Sicrhau bod y Cyngor yn gallu denu, recriwtio a chadw’r bobl sydd eu hangen arno, yn enwedig mewn rolau hanfodol a rolau y mae’n anodd recriwtio iddynt, drwy gynnig pecyn cyflogaeth deniadol, datblygu ffrydiau talent cynaliadwy a defnyddio dulliau cadw wedi’u targedu.
Amcan Strategol y Gweithlu 2: Datblygu Arweinwyr a Rheolwyr Eithriadol
Datblygu capasiti a gwydnwch arweinyddiaeth a threfniadau olyniaeth ar bob lefel, er mwyn sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu harwain yn dda, eu bod yn gynaliadwy a’u bod yn gallu rheoli pwysau cyflawni, llesiant y gweithlu a newid.
Amcan Strategol y Gweithlu 3: Gwella Ymgysylltu â'r Gweithlu
Creu gweithlu ymgysylltiedig lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael gwybodaeth, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn gallu cyfrannu, gan gydnabod bod ymgysylltiad yn sbardun allweddol i gadw’r gweithlu, gwella perfformiad a meithrin gwydnwch sefydliadol.
Amcan Strategol y Gweithlu 4: Datblygu Diwylliant o Berfformiad uchel, o Arloesi ac o Gyflawni
Meithrin y gallu, y capasiti, y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen i wella cynhyrchiant, mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio a chyflawni trawsnewid gwasanaethau cynaliadwy. Mae hyn yn cydnabod bod gallu digidol, gallu o ran data a gallu dadansoddol digonol yn hanfodol i alluogi cyflawni, ac y gall bylchau yn y galluoedd hyn gyfyngu ar drawsnewid.
Amcan Strategol y Gweithlu 5: Datblygu a Chynnal Gweithlu Diogel ac Iachus
Diogelu cynaliadwyedd y gweithlu drwy ymwreiddio iechyd, diogelwch a llesiant mewn prosesau cynllunio’r gweithlu, cynllunio gwasanaethau, newid sefydliadol ac arferion arweinyddiaeth, gan gydnabod bod pwysau o ran llwyth gwaith a chapasiti yn risgiau sylweddol i’r gweithlu.
