Strategaeth Gweithlu- 2024 – 2029 - Fframwaith Sefydlog ar gyfer Gweithlu sy'n Newid - Ebrill 2026
8. Adolygiad o'r Strategaeth
Bwriedir i’r Strategaeth Gweithlu hon barhau’n sefydlog drwy gydol ei hoes. Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y caiff ei diweddaru:
Newid sylweddol i flaenoriaethau corfforaethol.
Diwygio sefydliadol neu ddiwygio gwasanaethau ar raddfa fawr.
Newid sylweddol mewn deddfwriaeth sy’n effeithio ar ofynion y gweithlu.
Bydd adolygiadau canol tymor cyfnodol, wedi’u llywio gan y Cynllun Gweithlu Strategol a thystiolaeth sy’n dod i’r amlwg am y gweithlu, yn sicrhau bod y Strategaeth yn parhau’n addas at y diben, yn gymesur ac yn cyd-fynd â chyd-destun gweithredu’r Cyngor.
