Archebu pecynnau hunan-brawf Llif Unffordd ar-lein
1102 diwrnod yn ôl
O 26 Ebrill gall aelodau o staff nad ydynt yn gallu gweithio gartref archebu pecyn hunan-brawf llif unffordd ar-lein, a fydd yn cael ei ddosbarthu'n uniongyrchol i'w cartref.
Gallwch hefyd barhau i gasglu eich pecynnau Prawf Cyflym yn y Cartref o'ch safle profi lleol.
Gellir gweld rhestr lawn o'r safleoedd gyrru trwodd ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth am brofion Llif Unffordd ar ein tudalennau Coronafeirws ar y fewnrwyd.