Mis Ymwybyddiaeth Straen

19 diwrnod yn ôl

Mae mis Ebrill yn nodi Mis Ymwybyddiaeth o Straen a thema eleni yw Ychydig Wrth Fach, mae hyn yn amlygu effaith drawsnewidiol camau cadarnhaol cyson, bach ar ein lles cyffredinol. Rydym am bwysleisio sut y gall hyd yn oed y camau lleiaf a gymerir bob dydd tuag at hunanofal a lleihau straen wneud gwelliannau sylweddol mewn iechyd meddwl a lles dros amser.

Mae straen yn ymateb corfforol arferol pan fyddwn yn teimlo dan bwysau, ac yn aml gall fod yn gyflwr sy'n ein galluogi i oresgyn sefyllfaoedd anodd neu heriol. Fodd bynnag, os bydd y corff yn parhau i fod mewn cyflwr o straen am gyfnod hir, gall gael effeithiau negyddol difrifol ar ein hiechyd meddwl a chorfforol, gan gynnwys gorbryder, iselder ac anhunedd.

Mae'r Awdurdod yn cynnig adnoddau, gwybodaeth a hyfforddiant ar Straen ac Iechyd Meddwl yr ydym yn eich annog i'w defnyddio. Mae'r Asesiad Straen Unigol (ASU) yn arf ardderchog i'w ddefnyddio os ydych yn poeni am eich lefelau straen. Gall yr offeryn hwn eich helpu i adnabod eich sbardunau a bydd yn caniatáu i chi a'ch rheolwr eich cefnogi'n fwy effeithiol yn y gweithle.

Ymhellach, rydym wedi creu modiwl eDdysgu Iechyd Meddwl Yn y Gweithle (nhs.wales) fel modiwl gorfodol allweddol, rhaid i bawb ei gwblhau. Mae’n canolbwyntio ar iechyd meddwl, gan gynnwys straen yn y gweithle, cefnogi eich hun ac eraill ac mae’n darparu dolenni i’r cymorth mewnol ac allanol sydd ar gael.

Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi eich iechyd meddwl a lles ac yn eich annog i ganolbwyntio ar wneud addasiadau hylaw i'ch trefn feunyddiol, tra gall effaith gweithredoedd bach ar eu pen eu hunain ymddangos yn fach iawn, gall effeithiau cronnol yr arferion hyn fod yn ddifrifol!

Er mwyn cynorthwyo arweinwyr tîm, goruchwylwyr a reolwyr i leihau straen ac absenoldeb salwch sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn eu meysydd gwasanaeth, rydym wedi trefnu rhaglen o weithdai “Gweithdai Rheoli Straen ac Iechyd Meddwl yn y Gweithle” Anogir pob arweinwyr tîm, goruchwylwyr a reolwr yn gryf i fynychu'r gweithdai hyn.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i dudalennau mewnrwyd Straen, Iechyd Meddwl a Llesiant Emosiynol i gael rhagor o wybodaeth a chymorth. Gweler hefyd ein tudalen Cymorth a Chefnogaeth ar gyfer sefydliadau ac adnoddau allanol. Ar gyfer unrhyw ymholiadau Iechyd a Lles eraill, cofiwch y gellir cysylltu â’r tîm Iechyd a Lles unrhyw bryd drwy’r ffurflen gyswllt ar-lein.

Erthygl gan: Tim Iechyd a Llesiant