Canlyniadau'r Arolwg Sgiliau Digidol

20 diwrnod yn ôl

Gwnaethom gynnal Arolwg Sgiliau Digidol rhwng 22 Tachwedd 2023 a 12 Ionawr 2024, gan ofyn ystod o gwestiynau ynghylch sut rydych chi'n teimlo am eich sgiliau digidol.

Mae'r ymatebion wedi'u casglu a gallwch weld crynodeb o'r ymatebion a'r camau gweithredu ar y dudalen Llais Staff.

Bydd yr arolwg hwn fel llinell sylfaen ar gyfer y sgiliau digidol cyfredol ar draws y sefydliad a bydd yn dylanwadu ar gynllun hyfforddi wrth symud ymlaen.

Er mwyn gweithio yn unol â Strategaeth Trawsnewid Digidol Sir Gaerfyrddin, byddwn yn ceisio anfon yr arolwg digidol hwn allan unwaith eto mewn 3 blynedd i gymharu sut mae ein gweithredoedd wedi creu effaith, a sut y gallwn barhau i ddatblygu gweithlu sydd wedi'i alluogi'n ddigidol.

Diolch i bawb a gymerodd ran. Mae eich mewnbwn yn amhrisiadwy o ran ein helpu i ddeall y sefyllfa bresennol ac i deilwra ein hymdrechion i ddiwallu eich anghenion dysgu digidol mewn modd gwell.

Gweld y canlyniadau