Gwaith Gwella – Prif Ffrwd y Rhyngrwyd
1101 diwrnod yn ôl
Ar 15 ar 16 Mai bydd Gwasanaethau TGCh yn gwneud gwaith i symud prif ffrwd y rhyngrwyd o Neuadd y Sir i Heol Spilman. Bydd y gwaith hwn yn rhoi mwy o wydnwch i'n prif ffrwd drwy ei symud o Neuadd y Sir i 3 Heol Spilman.
Dyma'r darn olaf o waith o ran datgomisiynu ein hen ganolfan ddata yn Neuadd y Sir a bydd yn cael effaith sylweddol ar agenda carbon sero-net yr Awdurdod.
Mae natur y gwaith hwn yn golygu y bydd toriad yn y cyflenwad yn ystod y penwythnos wrth i’r gwaith gael ei wneud i symud y prif ffrwd a'r seilwaith cysylltiedig rhwng safleoedd.
Bydd llawer o wasanaethau'n cael trosglwyddo i’n rhyngrwyd eilaidd yn Rhydaman a bydd cyn lleied o darfu â phosibl ar wasanaethau ar y we.
Bydd y newid yn effeithio'n uniongyrchol ar y gwasanaethau canlynol ac ni fyddant ar gael ar fore 15 Mai, o 9am tan tua 1pm.
- Safleoedd y Cyngor sy'n gysylltiedig ag ADSL
- Rhwydwaith Mynediad Cyhoeddus
- Ffonau Gweithwyr Cartref (Teleweithiwr)
Er ei bod yn annhebygol na fydd pob system ar gael drwy gydol y penwythnos, dylid ystyried bod hyn yn peri risg i bob un ob un ohonynt mewn perygl.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch hyn, cysylltwch â Desg Gymorth y Gwasanaethau TGCh