Teams: Ymunwch â chyfarfod gyda rhif adnabod digidol

1120 diwrnod yn ôl

O fis Mai, byddwch yn gallu gwahodd gwesteion i gyfarfod Teams drwy rif adnabod digidol newydd.

Bydd Microsoft yn dechrau cyflwyno rhif adnabod digidol cyfarfod a fydd yn darparu ffordd ychwanegol i ddefnyddwyr ymuno â chyfarfod Microsoft Teams.

Erbyn diwedd Mai 2021, ar ôl i'r gwaith o gyflwyno rhif adnabod digidol cyfarfod gael ei gwblhau, bydd gan bob cyfarfod rif adnabod sy'n cael ei bennu'n awtomatig i ddefnyddiwr Microsoft Teams a'i ychwanegu at y gwahoddiad cyfarfod o dan y ddolen ar gyfer y cyfarfod.

Gall gwesteion sydd eisiau ymuno â'r cyfarfod gael mynediad drwy ddefnyddio'r rhif adnabod ar gyfer y cyfarfod hwnnw.

Bydd yr elfennau eraill megis ymuno ymlaen llaw, yr ystafell aros a diogelwch yn aros yr un peth.

Gellir cael cymorth a gwybodaeth bellach ar yr adran Cymorth a thrwy glicio ar yr eicon Llwybrau Dysgu, ac mae'r ddau hyn i'w gweld ar y bar ar yr ochr chwith yn Teams.