Ymgyrch Llysgenhadon GofalwnCymru

1129 diwrnod yn ôl

Ydych chi’n angerddol am eich gwaith mewn gofal cymdeithasol neu’r blynyddoedd cynnar a gofal plant?

Rôl Llysgenhadon Gofalwn Cymru yw codi proffil gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar. Mae Llysgenhadon Gofalwn Cymru yn helpu i addysgu pobl am y gwahanol ddewisiadau gyrfa a chyfleoedd i ddatblygu sydd gan y sector i’w cynnig.

Mae GofalwnCymru yn chwilio am bobl i fod yn Llysgenhadon i’r sector, gan rannu eu profiad a’u brwdfrydedd i ysbrydoli eraill i weithio mewn gofal.

Dysgwch fwy drwy fynd i www.Gofalwn.cymru/Llysgenhadon