Neges gan y Prif Weithredwr

884 diwrnod yn ôl

Yn dilyn y datblygiadau yn y newyddion yn ystod y penwythnos ynghylch amrywiolyn newydd Coronafeirws, sef Omicron, hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y mesurau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru.

O ddydd Mawrth, 30 Tachwedd, bydd angen i bob teithiwr sydd wedi'i frechu'n llawn sy'n cyrraedd Cymru hunanynysu a chymryd prawf PCR ar ddiwrnod 2 neu cyn hynny (ac eithrio plant 5 oed ac iau). Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried a fydd angen prawf PCR arnynt ar ddiwrnod 8 hefyd. Ar ôl cael canlyniad negatif, ni fydd angen iddynt barhau i ynysu. Os ydynt yn cael canlyniad positif, mae'n rhaid iddynt barhau i hunanynysu am 10 diwrnod o'r dyddiad y cymerwyd y prawf. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyn ar wefan Llywodraeth Cymru

I'r rhai ohonoch sy'n gweithio gartref, y neges gan Lywodraeth Cymru yw y dylech barhau i wneud hynny os oes modd. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod gan bob un ohonoch yr amgylchedd gwaith cywir, yr offer i wneud eich gwaith gartref a'r cymorth llesiant angenrheidiol. Os nad yw'r rheiny gennych, ewch ati i gael y sgwrs hon â'ch rheolwr sydd yno i'ch cefnogi.

O ran ein hysgolion, dylai gorchuddion wyneb bellach gael eu gwisgo dan do gan yr holl staff a disgyblion mewn ysgolion uwchradd, lle nad oes modd cadw pellter corfforol.  Efallai fod llawer o'n hysgolion eisoes yn gwneud hyn fel rhan o'u hasesiad risg, ond mae hyn yn ddull cenedlaethol bellach. Mesur rhagofalus dros dro yw hwn a fydd ar waith ar gyfer yr wythnosau o’r tymor sy'n weddill ac ar yr adeg honno bydd y sefyllfa'n cael ei hadolygu.

Mae'r mesurau newydd hyn wedi cael eu rhoi ar waith i helpu i'n cadw'n ddiogel wrth i ni weithio a byw ochr yn ochr â'r pandemig, felly mae angen i ni sicrhau ein bod yn dilyn nid yn unig y rheolau newydd hyn ond hefyd y rhai sydd eisoes ar waith, megis golchi ein dwylo a diheintio'n rheolaidd, gwisgo gorchudd wyneb ym mhob man cyhoeddus dan do a chael ein brechu, gan gynnwys cael brechlyn atgyfnerthu ar yr adeg iawn. Mae rhagor o wybodaeth am gael y brechlyn ar gael ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Cofiwch y gallwch gymryd profion llif unffordd yn rheolaidd pan nad oes gennych symptomau er mwyn eich tawelwch meddwl eich hun neu os gofynnwyd i chi wneud hynny, ond bydd angen i chi drefnu prawf PCR os oes gennych unrhyw symptomau a hunanynysu hyd nes i chi gael canlyniad negatif. Mae rhagor o wybodaeth am hunanynysu a sut i gael prawf ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn cefnogi rhaglen frechu Covid-19 drwy fynd i'r tudalennau Coronafeirws

Hoffwn ailadrodd cyngor Llywodraeth Cymru i fod yn ofalus dros gyfnod y Nadolig, ac i gymryd gofal ychwanegol, yn enwedig os oes gennych gynlluniau i gymysgu ag eraill.

Cofiwch barhau i edrych ar y tudalennau Coronafeirws i gael y wybodaeth ddiweddaraf a dyma lle gallwch ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych hefyd.

Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i ddilyn yr holl gyngor i ddiogelu ein hanwyliaid a'n cymunedau a diogelu Sir Gâr.

Byddaf yn rhoi diweddariad pellach yn dilyn adolygiad nesaf Llywodraeth Cymru ar 10 Rhagfyr.