Rhoddion a Lletygarwch

879 diwrnod yn ôl

Wrth i ni edrych ymlaen at dymor yr ŵyl, cofiwch fod y rheolau ynghylch derbyn rhoddion a lletygarwch wedi'u diweddaru. Mae'n bwysig eich bod yn deall y canlynol:

  • Ni ddylech dderbyn unrhyw roddion personol, benthyciadau, ffioedd, gwobrau neu fantais gan ddefnyddwyr gwasanaeth, contractwyr, darpar gontractwyr neu gyflenwyr allanol, waeth beth fo'u gwerth.
  • Os cynigir unrhyw beth i chi, waeth beth fo'r gwerth, mae'n rhaid i chi wrthod y cynnig ac yna ei ddatgan, drwy fynd i'ch cyfrif MyView a defnyddio ein proses 'Datgan Rhoddion a Lletygarwch' ar-lein newydd, sydd o dan yr adran "Fy Ffurflenni".

Darllenwch y canllawiau llawn yn ofalus, sydd ar gael ar ein tudalen Côd Ymddygiad i Swyddogion ar y fewnrwyd, sydd hefyd yn cynnwys adran 'Cwestiynau Cyffredin'.