Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant

27 diwrnod yn ôl

Rydym yn chwilio am Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant! Rôl wirfoddol yw hon sy'n agored i'r holl staff waeth beth fo'u gradd neu eu profiad. Rydym yn chwilio am bobl sy'n teimlo'n angerddol dros iechyd a llesiant ac sy'n frwd dros gynorthwyo pobl eraill i ymroi i ffordd iachach o fyw a chymryd rhan yn y gwaith o arwain hyn.

Diben y rôl hon yw ymgorffori iechyd a llesiant staff ym mhopeth a wnawn a gwella'r ddealltwriaeth ynghylch cael iechyd da, a phwysigrwydd hyn. Nid oes angen i chi feddu ar brofiad mewn meysydd iechyd penodol na llwybrau atgyfeirio gan y darperir hyfforddiant i bawb.

 Bydd yr Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant yn:

  • Cefnogi, Annog ac Ysbrydoli cydweithwyr o ran Iechyd a Llesiant.
  • Cysylltu â'r rhaglen waith a bennwyd gan y Cydgysylltydd Iechyd a Llesiant.
  • Defnyddio portffolio o ymgyrchoedd addas, gweithgareddau, rhaglenni, digwyddiadau, adnoddau ac ati i hyrwyddo iechyd a llesiant o fewn ein sefydliad a chyfeirio staff i gyfleoedd ac adnoddau.
  • Hyrwyddo diwylliant iach o fewn y gweithle!

Bydd angen i Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant neilltuo 1 awr yr wythnos i gyflawni'r dyletswyddau a amlinellir ac mae'n rhaid i chi gael cymorth gan eich rheolwr llinell i gyflawni'r rôl hon ar ran eich adran. Bydd y Cydgysylltwyr Iechyd a Llesiant yn eich cefnogi, a gallwch gysylltu â nhw ar unrhyw adeg drwy e-bost, dros y ffôn neu drefnu apwyntiad un i un.

 I gael rhagor o wybodaeth am sut i fod yn rhan o hyn, ewch i'n Tudalennau Iechyd a Llesiant a llenwch yffurflen Mynegi Diddordeb.

Ar hyn o bryd mae gennym 70 o Hyrwyddwyr Iechyd a Lles yn yr Awdurdod. Fel Hyrwyddwr byddwch yn cael hyfforddiant gan ein cydlynwyr Iechyd a Lles sydd â'r nod o'ch helpu i wneud y gorau o'r rôl.

Eleni, rydym yn cynnal ein hyfforddiant yn bersonol, felly wrth wneud cais am y rôl hon, a fyddech cystal â sicrhau bod gennych ganiatâd eich rheolwyr i fynychu. Ddydd Mercher 12 Mehefin am 9:30yb tan 12:30 yn Ystafell bwyllgor 2, 3 Heol Spilman. Am fwy o wybodaeth ebostiwch health&wellbeing@sirgar.gov.uk.

 Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych.