Sioeau Teithiol i Staff - Gwanwyn 2024
19 diwrnod yn ôl
Mae ein sioeau teithiol i staff yn ôl y gwanwyn hwn.
Ydych chi eisiau gwybod mwy am:
- Y gostyngiadau a buddion staff gwych sydd ar gael i chi?
- Polisïau cyflogaeth neu gymorth o ran cael mynediad i slipiau cyflog ar-lein?
- Yr ystod eang o hyfforddiant sydd ar gael i chi er mwyn datblygu eich hun yn bersonol ac o fewn eich swydd?
- Ein prosiect Trawsnewid a sut y gallwch gymryd rhan?
- Ymunwch mewn sesiwn ryngweithiol ar seiberddiogelwch, dysgwch fwy am MFA'S (dilysu aml-ffactor) a gofynnwch unrhyw gwestiynau sy'n gysylltiedig â TG i ni?
- Pa gefnogaeth iechyd a llesiant sydd ar gael i chi?
Dewch draw i Sioe Deithiol i Staff yn eich ardal chi am sgwrs gyda chydweithwyr mewn amgylchedd hamddenol.
Bydd pob sioe deithiol ar agor o 11.30am i 2pm.
- Dydd Mawrth, 16 Ebrill - Depo Trostre
- Dydd Iau, 25 Ebrill - Depo Glanaman
- Dydd Mawrth, 30 Ebrill - Depo Cillefwr, Caerfyrddin
- Dydd Llun, 13 Mai - Tŷ Elwyn, Llanelli
Gofynnir i reolwyr gefnogi staff sydd am fod yn bresennol i alw heibio yn ystod oriau gwaith, lle bo hynny'n bosibl.