Yr Anrheg o Roi - Traddodiad Newydd...

889 diwrnod yn ôl

Mae cyfnod yr ŵyl yn llawn traddodiadau. Os ydych chi'n chwilio am draddodiad teuluol newydd, sydd yn hwyl ond hefyd yn dysgu'ch teulu am bwysigrwydd helpu eraill, ac yn cynnwys menter y GIG o'r 5 Ffordd at Lesiant o roi adeg y Nadolig.

Mae'r Nadolig yn adeg brysur o'r flwyddyn i lawer o sefydliadau. Amcangyfrifir bod cynnydd o 45% yn y galw am barseli bwyd brys yn y pythefnos sy'n arwain at y Nadolig bob blwyddyn. Dyma lle gall calendr adfent gwrthdro helpu.

Beth yw calendr adfent gwrthdro?

Mae’r cysyniad yn syml: mae'r calendr adfent gwrthdro yn gweithio'n wahanol drwy ddefnyddio'r dyddiau olaf ym mis Tachwedd neu ddechrau mis Rhagfyr i ychwanegu un eitem fwyd (sy'n para) neu gynnyrch hylendid bob dydd yn barod i'w roi i fanc bwyd lleol neu siop elusen mewn pryd ar gyfer wythnos y Nadolig. Ar ddiwedd yr adfent, bydd y bocs yn cynnwys casgliad o 25 o nwyddau.  Mae hyn yn golygu yn hytrach nag agor rhywbeth ar gyfer yr adfent, rydych yn rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned bob dydd.

Am restr o fanciau bwyd lleol ewch i wefan Trussell Trust