Ail ddos Covid-19

1172 diwrnod yn ôl

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi dechrau cyflwyno ail ddos o frechlyn Covid-19 yr
wythnos hon.

Erbyn hyn dylai'r holl staff sy'n gymwys o dan Flaenoriaeth 1 a 2 fod wedi cael gwybod am apwyntiad neu byddant yn cael gwybod yn fuan.

Os cawsoch eich brechlyn cyntaf yn ystod yr wythnos a ddechreuodd ar 7 Rhagfyr, bydd y bwrdd iechyd hefyd yn anfon neges destun atoch i gadarnhau hyn.

Gofynnir i chi fynd i'r ganolfan yr aethoch iddi ar gyfer eich brechlyn cyntaf er mwyn rheoli logisteg dosbarthu'r ail ddos mewn trefn. Fodd bynnag, os cawsoch eich brechlyn cyntaf yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, gofynnir i chi fynd i apwyntiad yng Nghanolfan Halliwell yng Nghaerfyrddin yn lle hynny.

Mae'n bwysig cael y ddau ddos o'r brechlyn i roi'r amddiffyniad gorau i chi yn y tymor hir. Gwnewch bob ymdrech i fynd i'r apwyntiad a neilltuir.

Ar ôl i chi gael dau ddos y brechlyn, rhaid i chi barhau i ddilyn y canllawiau yn eich gweithle, gan gynnwys gwisgo'r cyfarpar diogelu personol cywir, cymryd rhan mewn unrhyw raglenni sgrinio a dilyn cyngor ac arweiniad cyfredol.

Er y bydd y brechlyn yn lleihau eich siawns o fynd yn ddifrifol wael, nid yw'n hysbys eto a fydd yn eich atal rhag dal a throsglwyddo'r feirws.

Rydym yn hyderus ein bod wedi nodi'r holl grwpiau staff hynny sy'n dod o dan y canllawiau, ond os credwch eich bod yn gymwys o dan Grwpiau Blaenoriaeth 1 a 2 ac nid ydych wedi cael y brechlyn, peidiwch â chysylltu â'r Bwrdd Iechyd, ond siaradwch â'ch rheolwr llinell yn y lle cyntaf i wirio a ydych yn gymwys. Dylai eich rheolwr llinell gysylltu ag Alex Williams a Rhys Page os yw'n yn credu eich bod yn gymwys ac wedi'ch colli.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn a sut y mae'r cyngor yn cefnogi'r rhaglen drwy fynd i'r adran brechlyn ar dudalennau coronafeirws y fewnrwyd.