Brechiadau Covid - Diweddariad

1212 diwrnod yn ôl

Mae dros 7,000 o staff iechyd a gofal cymdeithasol mewnol ac allanol eisoes wedi cael eu brechu yn erbyn Covid-19 yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae brechiadau'n parhau i gael eu blaenoriaethu ar sail y risg o ddod i gysylltiad â Covid-19, yn unol â grwpiau blaenoriaeth cenedlaethol. Er enghraifft, ni fyddai gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol nad ydynt yn rhai rheng flaen yn cael blaenoriaeth ar gyfer y brechlyn cyn aelodau eraill o'r cyhoedd yn eu hystod oedran, oni bai bod ganddynt gyflwr iechyd sylfaenol. Os oes gennych gyflwr iechyd sylfaenol, bydd eich meddyg teulu yn cysylltu â chi ar yr amser priodol.

Os yw staff y Cyngor yn y grwpiau blaenoriaeth, cysylltir â nhw'n uniongyrchol gan eu rheolwr i roi gwybod iddynt pryd y bydd slotiau archebu ar gael.

Os nad yw'r staff yng ngrwpiau blaenoriaeth cenedlaethol 1 a 2, bydd eu meddyg teulu yn cysylltu â nhw pan fyddant yn gymwys i dderbyn y brechlyn.

Bydd y rhai sydd eisoes wedi cael y dos cyntaf o frechlyn Pfizer yn awr yn cael eu galw'n ôl am eu hail ddos hyd at 12 wythnos ar ôl y dos cyntaf, yn hytrach na 3 wythnos, fel y cynghorwyd yn wreiddiol. Unwaith eto, mae hyn yn unol â'r canllawiau cenedlaethol ac i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael eu diogelu cyn gynted â phosibl.

Hefyd mae brechiadau brechlyn newydd Astra Zeneca/Oxford, a gymeradwywyd yr wythnos diwethaf, wedi dechrau cael eu rhoi.  Mae'r brechlyn hwn yn cael ei flaenoriaethu ar hyn o bryd i breswylwyr cartrefi gofal a phobl dros 80 oed yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru.

Rydym yn parhau i weithio gyda'r Bwrdd Iechyd i sicrhau bod holl staff y cyngor a staff y sector annibynnol sydd o fewn y grwpiau blaenoriaeth hyn yn cael slotiau brechu cyn gynted â phosibl, ond byddwch yn amyneddgar os gwelwch yn dda gan mai cyflenwad eithaf cyfyngedig o'r brechlyn sydd ar gael o hyd.

Mae cwestiynau cyffredin ar y rhaglen frechu a gwybodaeth am y grwpiau blaenoriaeth ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.