Diweddariad ynghylch brechiadau Covid-19

1191 diwrnod yn ôl

Yr wythnos hon mae dwy ganolfan frechu newydd yn agor yn Sir Gaerfyrddin - Theatr y Ffwrnes yn Llanelli a Chanolfan Halliwell yng Nghaerfyrddin.

Diolch yn fawr iawn i'n staff sydd wedi cytuno i gael eu hail-leoli i ddarparu cymorth hanfodol yn y ddwy ganolfan er mwyn i hyn ddigwydd ac i reolwyr am gefnogi'r adleoli hyn ar fyr rybudd.

Mae cynnydd sylweddol wedi cael ei wneud o ran cyflwyno'r brechlyn i'n gweithlu gofal cymdeithasol sydd yng ngrwpiau blaenoriaeth cenedlaethol 1 a 2 y rhaglen frechu. O blith y 6,500 o aelodau staff y Cyngor a'r sector annibynnol yn y grwpiau blaenoriaeth hyn, mae hanner ohonynt wedi cael y brechlyn.  Mae'r ffigwr hwn yn cynyddu bob dydd a disgwylir y bydd pawb sy'n gymwys wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn erbyn y dyddiad targed sef canol mis Chwefror.

Er bod y brechiad yn cael ei gyflwyno i amddiffyn ein staff a'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymuned, nid oes digon o wybodaeth ar gael eto am faint y mae'r brechlyn yn lleihau'r gallu i ledaenu'r feirws o hyd. Felly, mae'n hanfodol bod y rhai sy'n cael eu brechu yn parhau i ddefnyddio cyfarpar diogelu personol ac yn dilyn yr holl ganllawiau rheoli heintiau wrth gyflawni eu rolau.

Mae systemau ar waith hefyd i sicrhau bod yr holl staff sy'n darparu gofal personol mewn lleoliad addysg (sy'n gymwys o dan ganllawiau Llywodraeth Cymru) yn gallu trefnu apwyntiadau.

Dylai staff fod yn ymwybodol bod unrhyw negeseuon e-bost sy'n ymddangos eu bod yn dod o gyfeiriad e-bost y GIG ac yn eich gwahodd i apwyntiad brechu yn sgam. Os ydych yn gymwys i gael brechiad o dan grwpiau blaenoriaeth 1 a 2, dim ond drwy rywun sy'n gweithio i'r Cyngor y cewch eich gwahodd i wneud hynny. Os ydych yn dod o dan unrhyw un o'r grwpiau blaenoriaeth eraill, cewch eich gwahodd gan eich meddyg teulu neu'r GIG drwy lythyr fel arfer, ond ar rai achlysuron drwy alwad ffôn gan eich meddyg teulu.

Mae cwestiynau cyffredin ar y rhaglen frechu a gwybodaeth am y grwpiau blaenoriaeth ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Bwletin Brechu Covid Hywel Dda - Rhifyn 3