Cadwch yn ddiogel wrth gefnogi Cymru ym mhencampwriaeth Ewro 2020

1066 diwrnod yn ôl

Dangoswch eich cefnogaeth i Gymru yn ystod Ewro 2020 yr haf hwn drwy gadw'n ddiogel a gwylio'r gemau ar y soffa, yn y dafarn leol neu yn yr ardd.

Wrth i Gymru baratoi i chwarae ei gêm gyfeillgar gyntaf cyn gemau grwpiau yng nghystadleuaeth Ewro 2020 a gafodd ei gohirio’r llynedd, mae Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn annog cefnogwyr i aros gartref yn hytrach na theithio dramor.

Bydd Cymru'n wynebu Ffrainc heddiw, 2 Mehefin cyn chwarae yn erbyn y Swistir ar 12 Mehefin a Thwrci ar 16 Mehefin yn Baku, Azerbaijan. Bydd gêm grŵp olaf Cymru yn erbyn yr Eidal yn Rhufain ar 20 Mehefin.

Mae Ffrainc, Azerbaijan a'r Eidal ar y rhestr ambr o wledydd o ran teithio rhyngwladol i'r DU ac o'r DU.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: “Bydd mis Mehefin yn fis cyffrous i dîm pêl-droed cenedlaethol dynion Cymru ac i’n cefnogwyr gwych. Mae pob un ohonon ni am weld tîm Cymru yn cael yr un llwyddiant ag a gafodd yn 2016 – mae cystadlu yn Ewro 2020 yn gamp ardderchog, a byddwn i gyd am ddilyn hynt a helynt y tîm.

“Mae pawb wedi cyd-dynnu’n wych yn ystod y pandemig, wrth ofalu am ei gilydd a chadw Cymru yn ddiogel. Yn anffodus, dyw’r pandemig ddim ar ben eto, ac mae hynny’n golygu bod yn dal rhaid inni wneud rhywfaint o newidiadau i’n bywydau er mwyn cadw’n ddiogel. I gefnogwyr pêl-droed, y ffordd orau o ddangos cefnogaeth i Gymru yw aros yng Nghymru a chefnogi’r tîm o gartref. Ein cyngor pendant yw na ddylech deithio – mae Ffrainc, Azerbaijan a’r Eidal ar y rhestr oren oherwydd bod y feirws yn cylchredeg yno.”