Cofiwch archebu eich lle ar gyfer digwyddiad y Prif Weithredwr!
1040 diwrnod yn ôl
DIWEDDARIAD 12pm, Dydd Llun, Mehefin 21:
*Nid oes modd archebu lle ar-lein bellach ond os nad ydych eisoes wedi gwneud gallwch archebu lle drwy anfon e-bost at marchnatacyfryngau@sirgar.gov.uk gan nodi eich enw, eich adran a pha ddiwrnod yr hoffech fynychu'r digwyddiad.*
Os nad ydych eisoes wedi gwneud, cofiwch archebu eich lle ar gyfer digwyddiad ar-lein cyntaf y Prif Weithredwr.
Gyda llai na phythefnos i fynd, bydd y digwyddiad yn gyfle i gael gwybod rhagor am yr hyn sy'n digwydd yn yr awdurdod, gan gynnwys mwy o wybodaeth am y prosiect newydd Ffyrdd Gwell o Weithio.
Er mwyn sicrhau eich bod i gyd yn cael cyfle i fynychu, cynhelir sesiwn bob dydd rhwng dydd Mawrth, 22 Mehefin a dydd Gwener, 25 Mehefin. Bydd yn ddigwyddiad dwyieithog sy'n cael ei recordio ymlaen llaw fel y gallwn sicrhau ein bod yn cyrraedd cynifer ohonoch â phosibl drwy gydol yr wythnos.
Er y bydd y digwyddiad yn cael ei recordio ymlaen llaw, bydd y cyfleuster holi ac ateb yn ystod y digwyddiad yn fyw bob dydd.
Bellach, mae modd archebu lle ar gyfer y digwyddiad drwy'r dudalen Beth sy 'mlaen ar y fewnrwyd.
Bydd unrhyw aelod o staff nad oes ganddo gyfeiriad e-bost Cyngor Sir Caerfyrddin, neu fynediad at ddyfais waith, yn cael dolen ar wahân i wylio'r gynhadledd ddiwedd mis Mehefin.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan gynnwys Gofyn Cwestiwn ar y tudalennau Ffyrdd Gwell o Weithio.