Theatr y Ffwrnes ar fin ailagor gyda digwyddiad ‘Golau’r Ysbryd’

1057 diwrnod yn ôl

Theatr y Ffwrnes Llanelli yw un o'r lleoliadau cyntaf yng Nghymru i gyhoeddi ei chynlluniau i ailagor, gyda chynulleidfaoedd yn cael eu croesawu yn ôl i'r adeilad yn ddiweddarach y mis hwn fel rhan o brofiad golau a sain unigryw, Golau’r Ysbryd.

Wrth i'r theatr gysgu, mae un golau wastad wedi'i gynnau...golau'r ysbryd. Beth mae wedi ei weld? Dewch am dro tu mewn i Theatr y Ffwrnes yr haf hwn am brofiad goleuni a sain sy'n canolbwyntio ar fywyd tu ôl i'r llenni.

• Hyd: oddeutu 30 munud.
• Un grŵp fesul slot amser, uchafswm o 6 pherson o 6 aelwyd wahanol (gan gynnwys plant).
• Pris: £10 y person neu £35 am archeb grŵp am hyd at 6 pherson.

Tocynnau ar gael ar gyfer dyddiadau o Fehefin 23ain tan Orffennaf 31ain

Archebwch ar-lein yma