Wythnos Gofalwyr

1054 diwrnod yn ôl

Mae'n Wythnos Gofalwyr (Mehefin 7-13), ymgyrch flynyddol i godi ymwybyddiaeth ynghylch gofalu. Diolch yn fawr i’r holl ofalwyr sy’n gwneud gwahaniaeth i’r rheiny maent yn eu cefnogi.

Mae nifer o wahanol ddigwyddiadau yn cael eu cynnal i ddathlu’r wythnos hon, o sgyrsiau diddorol i gwis, bore coffi, sesiynau blasu a mwy.

Gallwch gael golwg ar y rhaglen o weithgareddau sydd wedi'i pharatoi gan y Rhwydwaith Gwasanaethau Cefnogi Gofalwyr yma

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Croesffyrdd Gorllewin Cymru