Adeiladau Hwb

1139 diwrnod yn ôl

Os bydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn parhau i fod yn ffafriol bydd y canolfannau gwasanaethau cwsmeriaid a'r desgiau arian yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli yn ailagor o ddydd Mercher, 14 Ebrill.

Bydd y canolfannau Hwb ar agor rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 9am a 4.30pm ar ddydd Gwener.

Bydd yn rhaid i'r rhai sydd angen cyngor wyneb yn wyneb wneud apwyntiad yn gyntaf drwy Fy Nghyfrif Hwb neu drwy ffonio 01267 234567.

Dim ond un cwsmer all fod yn bresennol ar gyfer pob ymweliad (dau os ydynt yn dod o'r un cartref ac angen cymorth yn ystod yr ymholiad.)

Er mwyn cadw pellter cymdeithasol, bydd nifer y cwsmeriaid a ganiateir tu mewn i'r adeilad yn llai a bydd ciwio'n digwydd tu fas i'r adeilad.

Bydd sgriniau amddiffynnol a phwyntiau diheintio yno.

Er mwyn lleihau'r posibilrwydd fod y feirws yn lledaenu, ni fydd mynediad at gyfrifiaduron na ffonau yn ystod yr ymweliad.

Bydd y desgiau arian ar agor i gymryd taliadau am y dreth gyngor, ardrethi busnes, rhenti Cyngor, dirwyon parcio, taliadau llety dros dro, ffioedd trwyddedu, rheoliadau adeiladu a ffioedd cynllunio. Cofiwch bydd y desgiau arian ar gau rhwng 1pm a 1.45pm bob dydd.

Mae'r Hwb yn darparu cyngor a chymorth wyneb yn wyneb i gwsmeriaid ar gyfer amrywiaeth o ymholiadau megis ailgylchu, budd-daliadau tai, y dreth gyngor, bathodynnau glas, trwyddedu tacsis a mwy.

Anogir trigolion o hyd i ddefnyddio 'Fy Nghyfrif Hwb' ar gyfer gwasanaethau a thaliadau ar-lein. I gofrestru neu fewngofnodi i Fy Nghyfrif Hwb, ewch i www.sirgar.llyw.cymru