Ail frechlyn Covid-19 i’w ddarparu mewn Canolfannau Brechu Torfol

1155 diwrnod yn ôl

O'r wythnos hon (wythnos yn dechrau ar 1 Mawrth), bydd pobl sydd fod derbyn eu hail frechlyn COVID-19 yn cael eu gwahodd i fynychu'r Ganolfan Brechu Torfol agosaf atynt, yn seiliedig ar leoliad eu Meddygfa.

Ceir rhagor o wybodaeth am y lleoliadau hyn ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae apwyntiadau bellach wedi'u cynnig i bawb a gafodd eu brechlyn cyntaf cyn 10 Ionawr.

Dim ond os ydych angen aildrefnu eich apwyntiad y dylech ffonio’r Bwrdd Iechyd neu os wnaethoch chi gael eich brechlyn cyntaf cyn 10 Ionawr a heb dderbyn apwyntiad eto. Gallwch hefyd wneud hyn drwy anfon e-bost:  COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk

Mae llythyrau ynghylch apwyntiadau ar gyfer yr ail ddos yn cael eu hanfon fesul set, yn gronolegol.

Atgoffir staff yn y grwpiau blaenoriaeth 1 a 2 sydd wedi cysylltu â'r bwrdd iechyd ac wedi cael eu hychwanegu at restr wrth gefn i dderbyn naill ai eu dos cyntaf neu eu hail ddos, mai rhif ffôn preifat (withheld) fydd yn cysylltu â nhw. Ni fydd neges yn cael ei gadael. Os ydych ar y rhestr wrth gefn, gwnewch bob ymdrech i ateb unrhyw alwad preifat (withheld) er mwyn osgoi unrhyw oedi cyn derbyn eich apwyntiad.

Mae'n bwysig cael y ddau ddos o'r brechlyn i roi'r amddiffyniad gorau i chi yn y tymor hir. Gwnewch bob ymdrech i fynd i'r apwyntiad.

Ar ôl i chi gael dau ddos y brechlyn, rhaid i chi barhau i ddilyn y canllawiau yn eich gweithle, gan gynnwys gwisgo'r cyfarpar diogelu personol cywir, cymryd rhan mewn unrhyw raglenni sgrinio a dilyn cyngor ac arweiniad cyfredol.

Rhannwch y wybodaeth hon ag unrhyw gydweithiwr sydd heb ddefnydd cyson o e-bost neu fynediad i'r rhyngrwyd.