Cerdyn Gweithiwr Gofal

1098 diwrnod yn ôl

Mae'r rhai a gyflogir mewn rôl gofal yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer Cerdyn Gweithiwr Gofal newydd.

Cyflwynodd Gofal Cymdeithasol Cymru y cerdyn Gweithiwr Gofal Cymdeithasol y llynedd. Nid yw'r cerdyn hwnnw yn ddilys ar ôl 1 Mai 2021.

Fel gyda'r cerdyn gwreiddiol, mae'r Cerdyn Gweithiwr Gofal newydd ar gyfer pawb a gyflogir mewn rôl gofal yng Nghymru, nid yn unig y rhai ar gofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru.

Er bod y cerdyn yn cael ei anfon at bawb sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn helpu i'w ddosbarthu i weithwyr gofal cymdeithasol sy'n gweithio i'r awdurdod neu gyda'r awdurdod ond sydd efallai heb gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Gall hyn gynnwys ond nid yn gyfyngedig i:

  • Gweithwyr cymorth gwaith cymdeithasol
  • Gweithwyr cymorth Cysylltu Bywydau
  • Gofalwyr maeth
  • Cynorthwywyr personol


Mae'r Cerdyn Gweithiwr Gofal yn wahanol i'r cerdyn gwreiddiol gan ei fod yn darparu mynediad i gerdyn arian-yn-ôl, yn ogystal ag amrywiaeth o gynigion manwerthu, drwy Ostyngiadau i Ofalwyr.

Bydd deiliaid cardiau hefyd yn gallu manteisio ar drefniadau siopa ffafriol presennol mewn rhai archfarchnadoedd lle mae'r rheiny'n dal i fod yn berthnasol. Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd yn parhau i roi gwybod i ddeiliaid cardiau am unrhyw adnoddau, megis rhaglenni symudol, y gallant eu defnyddio i helpu i gynnal eu llesiant corfforol a meddyliol yn ystod ac ar ôl y pandemig hwn.

Er mai dim ond fel fersiwn ddigidol y mae'r cerdyn newydd ar gael, gall y rhai sydd heb ffôn clyfar gael yr un manteision o hyd os oes ganddynt gyfeiriad e-bost a mynediad i'r rhyngrwyd. I gael rhagor o wybodaeth am hyn a sut i gofrestru a beth sydd ar gael, ewch i'r dudalen Cwestiynau Cyffredin.

Cofrestrwch i gael cerdyn digidol yma