Dyddiad i'ch dyddiadur!
1064 diwrnod yn ôl
Bellach, mae modd archebu lle ar gyfer digwyddiad ar-lein cyntaf y Prif Weithredwr.
Bydd y digwyddiad yn gyfle i gael gwybod rhagor am yr hyn sy'n digwydd yn yr awdurdod, gan gynnwys mwy o wybodaeth am y prosiect newydd Ffyrdd Gwell o Weithio.
Er mwyn sicrhau eich bod i gyd yn cael cyfle i fynychu, cynhelir sesiwn bob dydd rhwng dydd Mawrth, 22 Mehefin a dydd Gwener, 25 Mehefin. Bellach, mae modd archebu lle ar gyfer y digwyddiad drwy'r dudalen Beth sy 'mlaen ar y fewnrwyd.
Nid oes angen i staff rheng flaen ac athrawon archebu lle ar gyfer y digwyddiad hwn; byddwch yn gallu gweld fersiynau sy'n benodol i'ch rôl. Bydd modd cael golwg ar rain ar unrhyw adeg ar y fewnrwyd drwy ddyfeisiau gwaith neu bersonol o ddydd Llun, 28 Mehefin.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan gynnwys Gofyn Cwestiwn ar y tudalennau Ffyrdd Gwell o Weithio.