Wedi derbyn brechlyn cyntaf Pfizer dros 21 diwrnod yn ôl?

1077 diwrnod yn ôl

Mae'r bwrdd iechyd yn gofyn i unrhyw un a dderbyniodd frechlyn cyntaf Pfizer yn un o'n canolfannau brechu torfol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro fwy na 21 diwrnod yn ôl i gysylltu os nad ydyn nhw wedi derbyn apwyntiad ar gyfer ail frechlyn.

Os yw wedi bod yn fwy na 21 diwrnod ers eich brechlyn Pfizer cyntaf, e-bostiwch COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk gyda'r teitl pwnc “Cais- ail ddos Pfizer” gyda'ch enw llawn, dyddiad y brechlyn cyntaf a rhif ffôn cyswllt er mwyn archebu eich apwyntiad. Os na allwch anfon e-bost gallwch hefyd gysylltu â'r bwrdd iechyd trwy ffonio 0300 303 8322.