Diweddariad am Symud Data o'r Cynllun Ffeiliau Corfforaethol i SharePoint

902 diwrnod yn ôl

Mae gwaith yn parhau i drosglwyddo data o Gynllun Ffeiliau'r Cyngor i SharePoint, ac mae'r prosiect yn mynd yn ei flaen unol â'r amserlen ar hyn o bryd.

Mae symud i SharePoint yn rhan o ymrwymiad parhaus y cyngor i’r Strategaeth Technoleg Digidol – ‘Ymagwedd Cwmwl yn Gyntaf’. Mae SharePoint yn cynnig nifer o fanteision, gan gynnwys sicrhau ein bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data drwy broses cadw data wedi’i hawtomeiddio. Mae hefyd yn ein galluogi i weithio gyda’n gilydd drwy’r gallu i gydweithio, rhannu ffeiliau’n ddiogel a gweithio arnynt ar yr un pryd.

Hyd yma, mae chwe ffolder lefel uchaf o'r Cynllun Ffeiliau Corfforaethol wedi'u symud yn llwyddiannus i'r cwmwl – sy'n golygu bod bron i 2.8 miliwn o ffeiliau/ffolderi a thros 1.2 terabeit o ddata wedi cael eu symud.

Diolch yn fawr i'r adrannau hynny sydd wedi gweithio gyda chydweithwyr TG yn ystod gweithgareddau cyn symud. Mae'r gwaith cychwynnol hwn yn hanfodol bwysig ac yn galluogi cynnydd o ran mabwysiadu technolegau cwmwl.

Dylai pob un ohonom fod yn adolygu'n rheolaidd yr hyn yr ydym yn ei storio ar hyn o bryd yn y Cynllun Ffeiliau Corfforaethol ac mae'n arfer da dileu unrhyw ddata diangen neu ddata y mae ei gyfnod cadw wedi mynd heibio. Bydd hyn hefyd yn sicrhau mai dim ond data gofynnol, data da a data perthnasol sy'n cael ei symud i SharePoint.

Bydd adnodd hyfforddi SharePoint, a fydd yn rhoi trosolwg o SharePoint yn ogystal â disgrifio nodweddion allweddol a chanllawiau cam wrth gam, ar gael yn fuan.