Meddyliwch cyn i chi glicio – ymarfer i sicrhau nad ydym yn cael ein twyllo gan e-byst gwe-rwydo

901 diwrnod yn ôl

Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd pob un ohonom ni yn cymryd rhan mewn ymarfer gwe-rwydo ffug sy'n cael ei gynnal gan ein darparwr hyfforddiant seiberddiogelwch, Bob's Business.

Diben yr ymarfer 'Meddyliwch cyn i chi glicio' hwn yw addysgu'r aelodau hynny o staff a allai gael eu twyllo gan e-bost gwe-rwydo drwy roi'r wybodaeth berthnasol iddynt i gadw'n ddiogel.

Peidiwch â phoeni os byddwch yn cael eich dal gan un o'r negeseuon e-bost ffug yn ystod yr ymarfer hwn - os ydych yn clicio, cysylltir â chi i fynd drwy sesiwn hyfforddi fer.

Gwe-rwydo yw pan fydd ymosodwr yn anfon e-byst at gynulleidfa fawr yn y gobaith o dwyllo rhai i naill ai ddarparu gwybodaeth bersonol neu lawrlwytho meddalwedd maleisus. Hyn i gyd o un clic yn unig!

Mae'r e-byst hyn wedi'u dylunio i edrych yn ddilys ac yn eich annog i glicio.

Mae ymosodwyr yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau gwahanol i'ch twyllo! Byddant yn defnyddio technegau fel defnyddio ymdeimlad ffug o gyfarwydd-deb i geisio'ch twyllo i ddatgelu gwybodaeth sensitif neu glicio ar ddolenni peryglus.

Er bod gennym borth sy'n hidlo e-byst sy'n atal y mwyafrif o'r rhain, mae'n bosibl y bydd rhai e-byst yn cyrraedd eich mewnflwch.

Sicrhewch eich bod bob amser yn rhoi gwybod i'r tîm TG am unrhyw negeseuon e-bost amheus. Rhoi gwybod am neges yw'r ffordd orau o'ch diogelu chi a'n sefydliad ac atal toriad. Gallwch wneud hyn drwy glicio ar y tab 'report message' ar ochr dde uchaf eich tudalen yn Outlook.

Cofiwch fod yn wyliadwrus o e-byst ac yn bwysicaf oll, cofiwch Feddwl Cyn i chi Glicio! Drwy sicrhau ein bod yn deall pwysigrwydd cadw'n ddiogel, bydd hefyd yn sicrhau amgylchedd gwaith mwy diogel i bob un ohonom ac yn cadw'r sefydliad yn fwy diogel rhag ymosodiadau seiber.

I gael rhagor o wybodaeth am we-rwydo, ewch i'r tudalennau cymorth TG