Y Cyngor yn ennill statws y Rhuban Gwyn unwaith eto

899 diwrnod yn ôl

Wrth i ni edrych ymlaen at Ddiwrnod y Rhuban Gwyn ar Dachwedd 25, rydym yn falch o gyhoeddi ein bod unwaith eto wedi derbyn statws achrededig Rhuban Gwyn y DU.

Mae'r statws yn cydnabod y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud gan adrannau'r cyngor wrth annog dynion i godi llais a herio trais gan ddynion yn erbyn menywod. Byddwn hefyd yn cyflwyno cynllun gweithredu, gan weithio gydag adrannau'r cyngor i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddod â thrais gan ddynion yn erbyn menywod i ben.

Cafodd y Cyngor statws y Rhuban Gwyn ym mis Awst 2018 yn flaenorol a barhaodd am gyfnod o ddwy flynedd.

Ymgyrch fyd-eang yw'r Rhuban Gwyn sy'n annog pobl, yn enwedig dynion a bechgyn, i weithredu'n unigol ac ar y cyd a newid yr ymddygiad a'r diwylliant sy'n arwain at gamdriniaeth a thrais.

Er ein bod ni'n gwybod bod cam-drin domestig yn effeithio ar y ddau ryw, mae'r nifer fwyaf o ddigwyddiadau treisgar yn cynnwys dynion yn erbyn menywod.

I gefnogi Diwrnod y Rhuban Gwyn eleni, am y tro cyntaf, byddwn yn goleuo Neuadd y Sir yn borffor (lliwiau llinell gymorth genedlaethol Byw Heb Ofn) yn ogystal â chwifio baneri’r Rhuban Gwyn unwaith eto yn adeiladau’r cyngor ledled y sir - Neuadd y Sir, neuadd y dref yn Rhydaman a neuadd y dref yn Llanelli. Byddwch hefyd yn gweld neges ar eich slip cyflog ym mis Tachwedd a fydd yn cynnwys dolen i wefan y Rhuban Gwyn.

Mae yna lawer o bethau y gallwch chi eu gwneud i ddangos eich cefnogaeth i'r ymgyrch:

  • Gwneud yr addewid ar-lein "i beidio byth â chyflawni, esgusodi nac aros yn dawel am drais gan ddynion yn erbyn menywod.”
  • Gall dynion hefyd gofrestru i fod yn 'Ambassadors - Find Out More — White Ribbon UK' neu gall menywod gofrestru i fod yn Hyrwyddwr i helpu o ran hybu ymwybyddiaeth o'r ymgyrch a chysylltu â dynion a bechgyn i fynd ati ac amlygu ymddygiad treisgar ymysg eu 'cyfoedion'.

Mae cymorth a chyngor i unrhyw un y mae cam-drin domestig yn effeithio arno ar gael drwy ffonio Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800. I gael cyngor lleol, gallwch ffonio Threshold (Llanelli) ar 01554 752 422; Calan DVS (Rhydaman) ar 01269 597 474 a Gwasanaeth Cam-drin Domestig Caerfyrddin (CarmDAS) ar 01267 238 410 sy'n darparu cymorth i ddynion a menywod rhwng 9am-5pm.

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch ar wefan y Rhuban Gwyn