Y wybodaeth ddiweddaraf am Ffyrdd Gwell o Weithio

896 diwrnod yn ôl

Mae'r cynlluniau ar gyfer y prosiect Ffyrdd Gwell o Weithio yn symud ymlaen yn gyflym.

Cynhaliwyd trafodaethau cychwynnol â'r holl Benaethiaid Gwasanaeth ac Uwch-reolwyr ar sut y gallai gwasanaethau edrych yn y dyfodol.

Mae'r gwaith ymgysylltu hwn yn parhau ac mae ymgynghoriad pellach yn cael ei gynnal yn fisol ar lefelau'r Tîm Rheoli Adrannol a'r Tîm Uwch-reolwyr.

Bydd y gwaith hwn yn cael ei ddefnyddio i lywio cynllun busnes eich gwasanaeth, sy’n cael ei ddrafftio ar hyn o bryd. Bydd eich rheolwr yn ymgynghori â chi yn ystod y broses hon, os nad yw wedi gwneud yn barod.

Os ydych yn chwilio am adnoddau a chymorth ar gyfer gweithio a rheoli mewn ffordd hybrid, ewch i'r tudalennau Dysgu a Datblygu, lle gallwch gael cymorth ynghylch datblygu eich sgiliau digidol, sut i gynnal cyfarfodydd llwyddiannus ar-lein, awgrymiadau ar wella eich gwydnwch personol a helpu i ddatblygu ymddiriedaeth ymhellach mewn tîm wrth weithio mewn ffordd hybrid. Bydd yr adnoddau hyn yn cael eu diweddaru'n rheolaidd.

Bydd adroddiad ar Ffyrdd Gwell o Weithio yn cael ei roi gerbron y Tîm Rheoli Corfforaethol yn ddiweddarach y mis hwn. Yn dilyn hyn, byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am y camau nesaf.

Yn y cyfamser, gallwch barhau i ymweld â thudalennau Ffyrdd Gwell o Weithio gan eu bod yn cael eu diweddaru'n gyson i roi'r wybodaeth, yr arweiniad a'r cymorth diweddaraf. Ceir hefyd adran cwestiynau cyffredin gynhwysfawr.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â'r tîm drwy gyfwng y cyfleuster Gofyn Cwestiwn ar y tudalennau hyn a byddwn yn cysylltu â chi.