Brechiadau cerdded i mewn ar gael i bobl sy'n gymwys i gael dos atgyfnerthu
919 diwrnod yn ôl
Gall pobl sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro sy'n gymwys i gael brechiad
atgyfnerthu COVID-19 gerdded i mewn i unrhyw ganolfan frechu torfol Bwrdd Iechyd Prifysgol
Hywel Dda heb apwyntiad.
Rydych chi'n gymwys i gael dos atgyfnerthu os yw'r canlynol yn berthnasol i chi:
- Rydych chi'n 50 oed neu'n hyn; neu yn 16 oed neu'n hyn ac yn gweithio mewn cartref gofal,
iechyd neu ofal cymdeithasol; neu yn 16 oed neu'n hyn ac yn agored i niwed yn glinigol
a - Cawsoch eich ail frechlyn dros 24 wythnos neu fwy yn ôl