Clwb Clebran ar Ddiwrnod Shwmae

936 diwrnod yn ôl

Dydd Gwener, Hydref y 15, yw Diwrnod Shwmae - diwrnod lle mae pawb yn cael eu hannog i ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg, gyda'r cyfarchiad ‘Shwmae’.

I ddathlu, eleni mae Clwb Clebran newydd sbon y cyngor yn dweud Shwmae wrth westai cyffrous! Mae Catrin Heledd, newyddiadurwr chwaraeon sy'n gweithio i'r BBC, yn dod i siarad am ei gwaith, ei gyrfa a'i phrofiadau o gyfweld a sylwebu ar chwaraeon yn y BBC.

Dewch draw i ddweud ‘Shwmae’ am 11am ddydd Gwener, Hydref 15. Cynhelir y digwyddiad ar Teams.

Ewch at dudalen Beth sy mlaen i gael dolen i ymuno.