Cyngor yn talu am gost pigiadau ffliw i staff

928 diwrnod yn ôl

Mae llawer o staff y cyngor yn gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim, (bydd eich meddyg teulu yn cysylltu â chi os ydych yn rhan o'r categorïau hyn) ond os nad ydynt, bydd y cyngor yn talu'r gost unwaith eto eleni.

Gall y ffliw fod yn ddifrifol a chael brechiad ffliw bob blwyddyn yw'r ffordd orau o amddiffyn eich hun. Mae hefyd yn un o'r ffyrdd gorau o amddiffyn y GIG, sy'n paratoi ar gyfer gaeaf anodd ar hyn o bryd. Y llynedd cafodd dros filiwn o bobl yng Nghymru eu brechlyn ffliw, sef bron i 1 o bob 3 o bobl.

Os ydych yn gymwys, fe'ch anogir i gael eich brechlyn ffliw am ddim i "amddiffyn eich hunain, eich cymunedau a'ch GIG”.

Mae rhagor o wybodaeth am gymhwysedd ar gael ar https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/brechlynffliw/

Fodd bynnag, os nad ydych yn gymwys i gael brechlyn am ddim, gallwch dalu i gael brechlyn mewn detholiad o fferyllfeydd cenedlaethol ac annibynnol a bydd y cyngor yn ad-dalu'r ffi.

I hawlio'r ad-daliad ewch i'ch cyfrif My View, sydd bellach ar gael o unrhyw ddyfais, a dewiswch yr adran treuliau – cofiwch gadw eich derbynneb fel prawf eich bod wedi cael y brechiad.

Os bydd angen unrhyw gymorth arnoch i gael mynediad i'ch cyfrif My View, siaradwch â’ch rheolwr.