Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu

931 diwrnod yn ôl

Ni allwch newid eu gorffennol, ond gallwch wneud dewis sy’n newid eu dyfodol.

10 mis oed. 10 oed. Bachgen. Merch. Brawd. Chwaer. Pan fyddwch chi’n mabwysiadu, nid dewis plentyn yn unig ydych chi – rydych chi’n dewis teulu.

Er nad oes unrhyw ffordd o ddewis hynodrwydd bach eich plentyn neu rai rhannau o’u personoliaeth – gallwch ddewis y pethau sydd bwysicaf.

Rydych chi’n dewis rhannu chwerthin pan fydd pethau’n mynd o chwith. Rydych chi’n dewis bod yno pan fydd atgof anodd yn cael ei ail-fyw.

Efallai na fyddwch chi yno ar gyfer eu holl bethau cyntaf, ond gallwch chi wneud dewis bod yno ar gyfer yr eiliadau o bwys.

Oherwydd dyna beth yw magu plant – dewis derbyn y plentyn sydd gennych chi, o’r da i’r rhai sydd ddim cystal.

A phan fyddwch chi’n mabwysiadu, mae’r dewisiadau hynny’n bwysig yn fwy nag erioed. Waeth beth fo’u hoedran, rhyw, os cânt eu mabwysiadu ar eu pennau eu hunain neu fel brodyr a chwiorydd – mae angen sylw, sicrwydd a diogelwch ychwanegol ar blant mabwysiedig oherwydd eu profiadau yn y gorffennol.

Mae #DewisTeulu yn ymgyrch newydd gan Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru (NAS) i agor meddyliau a chalonnau pobl i’r plant sy’n aros i gael eu mabwysiadu ar hyn o bryd.

Os ydych chi neu unrhyw un rydych chi’n ei adnabod wedi mabwysiadu neu wedi cael ei fabwysiadu, byddai NAS wrth ei bodd pe byddech chi’n rhan o’r ymgyrch a rhannu straeon eich teulu i annog eraill i ddewis mabwysiadu.

Rhagor o wybodaeth