Bore Coffi Rhithwir Macmillan!

965 diwrnod yn ôl

Mae Bore Coffi Canser Macmillan ddydd Gwener 24 Medi. Bob blwyddyn mae'r digwyddiad hwn yn cynyddu ymwybyddiaeth yn ogystal â’r arian sydd wir ei angen sy'n galluogi'r elusen i barhau i ddarparu cymorth arbenigol i unigolion a theuluoedd sy'n byw â chanser. 

I gefnogi, rydym yn annog pob adran i ddod â'ch timau ynghyd a threfnu bore coffi rhithwir yn ystod yr wythnos honno. Rydym yn eich annog i wisgo lliw Macmillan, sef gwyrdd, ac anfon lluniau o'ch timau amrywiol at Health&Wellbeing@sirgar.gov.uk

Mae gan Macmillan hefyd syniadau ac adnoddau codi arian gwych i sicrhau bod eich bore coffi yn wahanol i bob un arall. Cliciwch yma i gael rhagor o ysbrydoliaeth!

I gyfrannu, ewch i wefan Macmillan: https://www.macmillan.org.uk/donate

Edrychwn ymlaen at weld eich lluniau!