Cefnogi eich llesiant ariannol

974 diwrnod yn ôl

Efallai y cofiwch ein bod wedi gweithio gyda phartner o'r enw Neyber i gefnogi eich llesiant ariannol.
Mae Neyber bellach yn ffurfio cwmni llesiant ariannol mwyaf y DU, o'r enw Salary Finance.

Drwy Salary Finance , gall gweithwyr gael mynediad at y canlynol:

  • Benthyciadau fforddiadwy sy'n cael eu had-dalu drwy gyflog - gellid eu defnyddio i dalu dyledion drud ac osgoi benthyciadau diwrnod cyflog neu gardiau credyd. Cyfradd Gynrychioliadol 9.9% APR (sefydlog).
  • Addysg ariannol am ddim gan gynnwys fideos, gweminarau, canllawiau bywyd, offer a chyfrifianellau i helpu i wneud arian yn symlach. Gwyliwch y fideo byr hwn sy'n dangos y weminar ddiweddaraf ynghylch dod yn ddi-ddyled.

Rhagor o wybodaeth

*Nid yw Cyngor Sir Caerfyrddin yn elwa ar gynnig y gwasanaeth hwn a bydd eich holl gyfathrebiadau gyda Salary Finance. Bydd ceisiadau am fenthyciadau yn cael eu hasesu i sicrhau bod y benthyciad yn briodol ac yn fforddiadwy i chi. Mae'r cynnwys "dysgu" at ddibenion addysgol ac i roi arweiniad yn unig ac mae'n gyffredinol ei natur. Nid yw Salary Finance yn cynnig cyngor ariannol rheoledig. Ceisiwch gyngor ariannol annibynnol.