Llesiant ariannol gan Salary Finance

963 diwrnod yn ôl

Mae gan ein sefyllfa ariannol fwy o ddylanwad ar ein hiechyd meddwl na beth rydym yn fodlon ei gyfaddef.

Efallai y cofiwch ein bod wedi gweithio gyda phartner o'r enw Neyber i gefnogi eich llesiant ariannol. Mae Neyber bellach yn ffurfio cwmni llesiant ariannol mwyaf y DU, o'r enw Salary Finance

Dengys ymchwil gan Salary Finance fod arian yn achos straen i 40% o bobl y DU, a gall hyn effeithio ar bob agwedd ar ein bywydau - colli cwsg, rhoi straen ar berthnasoedd, methu canolbwyntio, a theimlo'n orbryderus neu ddioddef iselder hyd yn oed.

Os ydych am boeni llai am arian, mae'n bosib ei bod hi'n werth i chi fwrw golwg ar Salary Finance, sy'n darparu mynediad at:

  • Benthyciadau a ad-delir drwy eich cyflog: Benthyciadau ar gyfraddau fforddiadwy gyda chyfradd dderbyn uwch na banciau. Gallai benthyciad ar gyfradd is eich helpu chi i arbed arian drwy dalu dyled ddrutach neu ganiatáu i chi dalu llai o log os oes angen i chi fenthyg arian i brynu car, i wneud gwelliannau i’ch cartref neu i dalu cost annisgwyl. Cyfradd Gynrychioliadol 9.9% APR (sefydlog).
  • Awgrymiadau ariannol: pob math o awgrymiadau a fideos, yn ogystal ag adnoddau ar gyfer cyllidebu a chynilo er mwyn helpu i wneud arian yn syml.

Rhagor o wybodaeth

*Nid yw Cyngor Sir Caerfyrddin yn elwa ar gynnig y gwasanaeth hwn a bydd eich holl gyfathrebiadau gyda Salary Finance. Bydd ceisiadau am fenthyciadau yn cael eu hasesu i sicrhau bod y benthyciad yn briodol ac yn fforddiadwy i chi. Mae'r cynnwys "dysgu" at ddibenion addysgol ac i roi arweiniad yn unig ac mae'n gyffredinol ei natur. Nid yw Salary Finance yn cynnig cyngor ariannol rheoledig. Ceisiwch gyngor ariannol annibynnol.