Proses ymgynghori

966 diwrnod yn ôl

Os oes angen i’ch gwasanaeth neu adran ymgynghori gyda staff, cwsmeriaid, defnyddwyr gwasanaeth neu randdalwyr allweddol, mae cwestiynau demograffig statudol newydd yn ofynnol wrth gynnal unrhyw ymgynghoriad.

Rydym yn gwneud hyn yn unol â Deddfwriaeth o ran y Gymraeg a Chydraddoldeb. Yn ogystal, mae'n bwysig cofio y dylai'r holl arolygon, boed i’r cyhoedd neu’n fewnol, fod yn ddwyieithog.

I gael mwy o wybodaeth am y cwestiynau demograffig statudol neu os hoffai eich gwasanaeth neu adran gynnal ymgynghoriad, cysylltwch â David Jenkins yn ymgynghori@sirgar.gov.uk

Sicrhewch fod digon o amser yn cael ei ganiatáu i amserlennu hyn i'r llwyth gwaith.