Gwaith hanfodol i Neuadd y Sir
646 diwrnod yn ôl
Oherwydd gwaith hanfodol bydd Neuadd y Sir, Caerfyrddin, ar gau drwy gydol mis Awst.
Bydd gwaith yn cael ei wneud ym mhob swyddfa ac felly dylid symud unrhyw eiddo personol o'r swyddfa / ei storio dan glo yn ystod y cyfnod hwn.
Bydd Neuadd y Sir ar agor rhwng 9am a 10am ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener, ond rhaid cael caniatâd eich rheolwr llinell i gael mynediad a rhaid i chi gofrestru wrth fynd i mewn ac allan o'r adeilad.
Rydym wedi trafod â’r Post Brenhinol ynghylch y trefniadau post i mewn ac allan o'r adeilad a bydd y rhain yn weithredol ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener yn unig.
Ni fydd hyn yn effeithio ar barcio o amgylch Neuadd y Sir.