Straeon Caredigrwydd

641 diwrnod yn ôl

Hoffem wahodd staff i rannu eu profiadau a'u straeon eu hunain o garedigrwydd, boed yn brofiad personol neu'n rhywbeth rydych wedi'i weld neu wedi clywed amdano gan eraill. Rydym wedi sefydlu Padlet lle gallwch gyflwyno eich profiadau o garedigrwydd yn ddienw.

Mae dwsinau o ffyrdd o wella'ch iechyd. Gallwch fwyta bwyd maethlon, cynnal pwysau iach, cymryd atchwanegiadau, ac ymarfer corff yn rheolaidd. Ffordd arall o ddylanwadu ar eich iechyd yw bod yn garedig! Nid yw bod yn garedig yn waith anodd nac yn cymryd llawer iawn o amser. Mae'n rhywbeth y gallwn ni i gyd ymdrechu i'w wneud bob dydd.

Gall bod yn garedig gael effaith gynyddol ar eich bywyd yn gyfan. Profwyd bod caredigrwydd yn llesol i iechyd yn y tymor hir a gall:

Lleddfu gorbryder - Mae gorbryder yn gyffredin iawn a gall amrywio o deimlo ychydig yn nerfus i banig difrifol.  Byddwch yn garedig tuag at eich hun yn ogystal â thuag at eraill a lleddfwch eich pryderon.

Gwenwch – mae'n heintus! - Pan fyddwn yn gwenu ar rywun, maen nhw'n tueddu i wenu'n ôl arnom, ac rydym yn adlewyrchu ein gwenau ein gilydd yn y pen draw.  Mae gwenu nid yn unig yn gwneud inni deimlo'n dda ond credir bod gwenu yn rhoi hwb i'r system imiwnedd gan ein bod yn teimlo'n fwy hamddenol.

Cryfhau eich perthynas ag eraill - Mae bod yn garedig, fel prynu coffi i rywun neu wneud rhywbeth drostynt, yn cryfhau'r berthynas â ffrindiau a theulu.  Mae hyn yn gysylltiedig â gwell hwyliau ac mae'n helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd. 

Lleihau eich pwysedd gwaed - Mae'r hormon Ocsitosin, sy'n gwneud inni deimlo'n dda, yn llifo drwy ein corff a'n hymennydd pan fyddwn yn bod yn garedig.  Mae Ocsitosin yn helpu i leihau pwysedd gwaed a gall helpu i atal niwed i'r galon.  Felly, ewch amdani a byddwch yn garedig tuag at rywun!

Nid yw dangos caredigrwydd tuag at eraill yn gorfod golygu gwneud rhywbeth mawr neu rywbeth sy'n newid bywyd. Yn aml, mae'r gweithredoedd lleiaf o garedigrwydd yn gallu cael yr effaith fwyaf megis:

  • Dangos eiliad o gefnogaeth yn ystod cyfnod o angen
  • Rhoi gair tawel o anogaeth
  • Gadael i rywun fynd o'ch blaen mewn rhes

Beth bynnag fo'r weithred, bydd pedair egwyddor yn sail iddi:

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am egwyddorion caredigrwydd yma.

Bydd y straeon caredigrwydd hyn yn cael eu rhannu ar y fewnrwyd yn yr wythnosau nesaf.

Gellir dod o hyd i adnoddau ac i wybodaeth ychwanegol am iechyd a llesiant ar ein tudalennau Iechyd a Llesiant.

Erthygl gan: Tim Iechyd a Llesiant