Arolwg ymgysylltu â staff

682 diwrnod yn ôl

Yn dilyn Covid a'r etholiadau lleol yn ddiweddar, hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i holi'r holl
staff ynglŷn â gweithio i'r Cyngor, felly heddiw rydym yn lansio arolwg ymgysylltu â staff.

Byddwn yn defnyddio'r adborth i helpu i wella'r hyn a wnawn a monitro'r cynnydd yr ydym
yn ei wneud bob blwyddyn.

Ni ddylai'r arolwg gymryd mwy na 10 munud i'w gwblhau a bydd gennych tan 5 Awst i
ymateb.

Gofynnwn i chi fod mor onest â phosibl wrth lenwi'r arolwg gan y bydd eich barn yn ein
helpu i ddeall yn well sut rydych chi'n teimlo ynglŷn â gweithio i'r Cyngor.

Bydd pob ymateb i'r arolwg yn gwbl ddienw.

Cwblhewch yr arolwg yma