Cyfrifiad 2021 – data Sir Gaerfyrddin

682 diwrnod yn ôl

Disgwylir i ganlyniadau Cyfrifiad 2021 gael eu rhyddhau am y tro cyntaf ar 28 Mehefin.

I'ch helpu chi, bydd ein tîm Dealltwriaeth Data yn creu dadansoddiad o'r data ar lefel Sir Gaerfyrddin. Bydd yr holl ddata a'r ystadegau ar gael i'w canfod mewn fformat syml a hawdd ei ddarllen ar dudalen Ystadegau ac Ymchwil y wefan ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi yr wythnos nesaf.

Mae'r cyfrifiad yn arolwg sy'n digwydd bob 10 mlynedd ac yn rhoi darlun i ni o'r holl bobl ac aelwydydd yng Nghymru a Lloegr. Mae atebion i gwestiynau'r cyfrifiad yn helpu sefydliadau i wneud penderfyniadau ar gynllunio ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn eich ardal, gan gynnwys trafnidiaeth, addysg a gofal iechyd.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn y cyfamser, anfonwch e-bost at y Tîm Dealltwriaeth Data: data@sirgar.gov.uk