Gradd-brentisiaethau Digidol

684 diwrnod yn ôl

Mae tri aelod o staff o'r adran TG wedi elwa o ymgymryd â Gradd-brentisiaethau Digidol a gynigir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Gan fod llawer o gyflogwyr yn chwilio am staff â sgiliau digidol uwch, mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cynnig ateb sydd o fudd i gyflogwyr a gweithwyr.

Mae John Williams, Rheolwr Gweithrediadau a Llywodraethu TGCh; Julian Milligan, Uwch-ddatblygwr Cymwysiadau ac Emma Williams, Swyddog Technegol TGCh, wedi sôn am yr hyn y maent wedi'i ennill a'i brofi yn sgil eu hastudiaethau.

Dywedodd John: “Roedd fy nghymhwyster academaidd diwethaf yn ôl yn 2002 pan wnes i gwblhau HND mewn Astudiaethau Cyfrifiadur! Er fy mod yn gweithio mewn rôl uwch-reoli i'r Awdurdod, roeddwn yn gymwys i fod yn Brentis ar y Cynllun Gradd Digidol, sydd o'r diwedd wedi caniatáu i mi ennill gradd, wedi'i ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru! Mae hyn yn rhywbeth yr wyf wedi bod yn ystyried ei wneud dros y blynyddoedd, ac rwy'n falch fy mod wedi ei wneud o'r diwedd. Rheoli Seiberddiogelwch yw'r cwrs gradd, ac er ei fod wedi bod yn heriol ac mae elfennau'n dechnegol iawn, mae wedi rhoi gwell dealltwriaeth a gwybodaeth gyfoes i mi ym maes Seiber, sy'n berthnasol iawn i'r rôl rwy'n ei deall o fewn y sefydliad, gan fod yn gyfrifol am wytnwch seiber a llywodraethu o fewn fy nhîm.”

Nid oedd Emma wedi astudio ers amser maith ac er bod astudio am radd yn gallu bod yn heriol ar adegau, mae hefyd yn werth chweil. Ychwanegodd: “Mae'r cyfle i fod yn rhan o'r Radd-brentisiaeth Ddigidol wedi rhoi'r hyder a'r sgiliau sydd o fudd i'm datblygiad proffesiynol a phersonol. Mae wedi fy ngalluogi i gamu allan o sefyllfa gyfforddus, ymgymryd â heriau newydd a gwireddu fy mhotensial. Mae'r wybodaeth gyfredol a'r profiad rwy'n eu hennill yn berthnasol iawn i'm rôl, ac rwy'n gallu eu defnyddio yn y gweithle.”

Ychwanegodd Julian: “Ar ôl dysgu fy hun i godio am nifer o flynyddoedd a dod yn Is-ddatblygwr y We, mae gwneud y cynllun prentisiaeth Ddigidol wedi rhoi'r offer a'r hyder i mi symud ymlaen yn fy rôl. Heb hyn, rwy'n teimlo na fyddwn wedi cael swydd Uwch-ddatblygwr Cymwysiadau. Mae hefyd wedi fy helpu i gyflwyno fy nghynlluniau prosiect mewn modd mwy proffesiynol a gwella fy sgiliau codio.”

Darllenwch ragor gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant am sut y mae Gradd-brentisiaethau Digidol yn mynd i'r afael â'r prinder sgiliau digidol yng Nghymru.