System recriwtio arloesol newydd ar y ffordd
676 diwrnod yn ôl
Mae paratoadau ar y gweill i gyflwyno system recriwtio newydd erbyn diwedd y flwyddyn.
Y nod yw y bydd y system newydd yn rhyddhau amser gweinyddol ac yn buddsoddi mwy o amser i ddarparu cymorth i swyddogion recriwtio i'w helpu i ddenu'r talentau gorau, ennyn eu diddordeb, a'u recriwtio.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gweld cynnydd o 66% yn nifer y swyddi gwag sy'n cael eu hysbysebu sydd wedi arwain at dderbyn dros 5,000 o geisiadau, gan arwain at 1,600 o ddechreuwyr newydd – sy'n golygu 1,900 o wiriadau DBS ar gyfartaledd bob blwyddyn.
Rydym yn ymwybodol ein bod yn wynebu galw mawr am staff yn wyneb prinder cenedlaethol o weithwyr sydd ar gael. Felly, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn gwneud y broses recriwtio mor ddeniadol a hawdd â phosibl i ddenu darpar ymgeiswyr, ac mor gyflym a hygyrch â phosibl ar gyfer rheolwyr recriwtio.
Bydd y system olrhain ymgeiswyr newydd yn darparu:
- Tudalennau swyddi newydd â brand corfforaethol
- Proses symlach ac awtomataidd i wneud cais i hysbysebu
- Peiriant chwilio am swyddi gwag i ganiatáu i ymgeiswyr chwilio am gyfleoedd yn seiliedig ar feini prawf penodol
- Ffurflenni cais dynamig gyda chwestiynau sgrinio penodol
- Y gallu i ymgeiswyr lenwi ffurflenni cais gyda'u proffiliau cyfryngau cymdeithasol
- Y gallu i gyfathrebu ag un ymgeisydd ar y tro (1:1) neu â nifer o ymgeiswyr trwy gyfrwng pyrth ymgeiswyr o fewn y system, gan deilwra ac olrhain yr holl ryngweithio
- Awtomeiddio'r broses o amserlennu cyfweliadau sengl, cyfweliadau lluosog a chyfweliadau gan banel, gan greu cyfweliadau ar y safle neu rai rhithwir (gan ychwanegu dolenni cyfarfodydd rhithwir yn awtomatig)
- Dyrannu amseroedd cyfweld neu ganiatáu i ymgeiswyr drefnu eu cyfweliadau eu hunain, aildrefnu, neu ganslo cyfweliadau
- Awtomeiddio'r broses o gasglu adborth o gyfweliadau
- Gwiriadau geirda awtomataidd gan gynnwys hysbysiadau atgoffa awtomataidd
- Llenwi ffurflenni cyn-cyflogi ac awtomeiddio'r cyfathrebu ynglŷn â chynefino
- Ffurfweddu a chael mynediad at ddangosfyrddau personol sy'n cynnwys amrywiaeth o graffiau, rhestrau tablau a dolenni cyflym
- Creu ac amserlennu eich adroddiadau / gwybodaeth reoli eich hun
Mae trawstoriad o reolwyr recriwtio wedi cael eu gwahodd i weithio gyda'r Timau Rheoli Pobl a Recriwtio cyn gweithredu a chyflwyno'r system newydd, sydd i'w darparu gan Oleeo.
Bydd y tîm recriwtio yn cynnig y lefel orau o gymorth i reolwyr recriwtio ac i ymgeiswyr; yn paratoi arddangosiadau o'r system, hyfforddiant a chanllawiau; yn sicrhau bod ein holl bolisïau'n cael eu hadolygu; yn ailedrych ar ein llythyrau templed a'n negeseuon e-bost.
Bydd y system newydd yn dechrau cael ei gweithredu ym mis Mehefin a bydd yn weithredol erbyn diwedd y flwyddyn. Mae llawer i'w wneud ond rydym yn teimlo'n gyffrous am y cyfeiriad yr ydym yn symud iddo ac rydym yn barod i ymateb i'r her. Rydym yn gobeithio y gallwch barhau i gefnogi'r tîm wrth iddynt baratoi at rannu'r ffyrdd newydd o weithio gyda chi.
Byddwn yn rhoi diweddariadau rheolaidd i chi a byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i roi adborth wrth i'r feddalwedd newydd gael ei gweithredu.