Clwb Clebran mis Mehefin
714 diwrnod yn ôl
Mae’r Clwb Clebran yn croesawu Cardi ym mis Mehefin. Nid unrhyw Gardi chwaith, ond Gwion Dafydd o gwmni Cardi, sy’n arbenigo mewn arbed arian. Mae Gwion, sydd o Dalgarreg yn rhoi cyngor arbenigol ar leihau biliau a chael y ddêl orau ac fe fydd e’n sgwrsio gyda ni ar y 14 Mehefin am 12:30.
Os oes gennych unrhyw beth yr hoffech ofyn i Gwion er mwyn i’r sesiwn fod o ddefnydd i bawb, anfonwch nhw at iaithgymraeg@sirgar.gov.uk cyn y 3ydd o Fehefin.
Trowch mewn i’r Clwb Clebran! Cewch gyfle i glywed y Gymraeg ac i ofyn ambell i gwestiwn. Ewch i’r dudalen ‘Be Sy Mlaen’ i gael dolen i’r cyfarfod TEAMS.